Lleoliad:
Cynhadledd Fideo Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 6 Hydref 2020
Amser:
09.02 -
10.11
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod yr wythnos diwethaf i’w cyhoeddi.
3 Trefn busnes
3.1 Busnes yr Wythnos Hon
Dywedodd y Trefnydd wrth yr Aelodau ei bod wedi diweddaru teitl datganiad y Cwnsler Cyffredinol ar y papur Saesneg.
Dethol gwelliannau
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y gallai, oherwydd nifer y gwelliannau a gyflwynwyd yr wythnos hon, ddefnyddio ei phwerau i beidio â dethol gwelliannau lle mae'n credu ei bod yn briodol i gynnal busnes y Senedd yn briodol.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes hefyd fod dadl y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, 'Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf' hefyd wedi denu dau welliant, na fydd yn eu dethol yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii).
Trefn yn y Siambr/ar Zoom
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn trin rhagor o achosion o Aelodau'n agor eu meicroffonau eu hunain pan na elwir arnynt, fel mater o drefn, ac y bydd yn gwneud cyhoeddiad i'r perwyl hwnnw ar hyn cyn y cyfarfod llawn heddiw.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ddau ddiweddariad i'r amserlen tair wythnos:
Dydd Mawrth 13 Hydref 2020 -
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020
Dydd Mawrth 3 Tachwedd
Rheoliadau
Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020 (15
munud) – Gohiriwyd
tan 24 Tachwedd
3.3 Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid gofyn i gadeiryddion pwyllgorau a allai eu dadleuon fod mewn slotiau 30 neu 45 munud, yn hytrach na 60, fel mater o drefn.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn yn yr amserlen:
Dydd Mercher 4 Tachwedd 2020 –
· Cynnig i nodi’r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2019-20 (30 munud)
· Dadl ar ddeisebau: addysgu hanes mewn ysgolion (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 12 Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
4.2 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 12 Hydref i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
4.3 Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 4) ar y Bil Pysgodfeydd i graffu arno.
4.4 Rheoliadau Coronafeirws
Trafododd y Pwyllgor Busnes y papur a daeth i'r casgliad bod byrhau amserlenni cyffredinol ar gyfer trafod Rheoliadau, ar y cyd ag argaeledd cyfleoedd eraill i drafod Rheoliadau newydd, yn un ffordd ymlaen.
Dywedodd y Trefnydd wrth Reolwyr Busnes nad oedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020 wedi newid yn sylweddol o reoliadau Rhif 15, ac eithrio lleoliad.
Gofynnodd y Pwyllgor Busnes i swyddogion ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ganfod dull y gellir ystyried rheoliadau tebyg yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ar ôl iddynt ddod i rym yn y dyfodol.
5 Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar y ddeiseb 'P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i lifogydd 2020 yn Rhondda Cynon Taf fel bod gwersi'n cael eu dysgu' yn yr hanner tymor nesaf, gyda'r dewis y bydd y ddadl yn un 30 munud o hyd.
Unrhyw Fater Arall
Seddi
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes na fydd yn caniatáu i seddau a ddyrennir i grwpiau plaid gydag Aelodau nad ydynt yn mynychu'r Siambr gael eu dyrannu i Aelodau grwpiau eraill neu Aelodau annibynnol.
Cyfarfod dros y tymor hwy
Trafododd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer cyfarfodydd hybrid. Dywedodd y Llywydd y byddai'n trafod y mater gyda'r Prif Weinidog a gofynnodd i'r Rheolwyr Busnes drafod gyda'u grwpiau.